Queer Palm

Gwobr a noddir yn annibynnol ar gyfer ffilmiau LHDT a gyflwynir yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ydy'r Queer Palm. Sefydlwyd y wobr yn 2010 gan y newyddiadurwr Franck Finance-Madureira sy'n trefnu'r digwyddiad yn flynyddol. Noddir y wobr gan Olivier Ducastel a Jacques Martineau, gwneuthurwyr y ffilmiau Jeanne and the Perfect Guy, The Adventures of Felix, Crustacés et Coquillages, a L'Arbre et la forêt.

Gwobrwyir ffilmiau am eu hymdriniaeth o themâu LHDT ac fe'u dewisir o'r ffilmiau a enwebir neu a gyflwynir yn y Detholiad Swyddogol, Un Certain Regard, Wythnos y Beirniaid Rhyngwladol a Phythefnos y Cyfarwyddwyr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search